Cynigia urbasba ystod arloesol o driniaethau gwallt, wyneb a chorff. Sbwyliwch eich hun yn ein salon cyfoes neu ymlaciwch yn ein sba tawel. Cynigiwn y profiad ymlacio perffaith i godi’ch ysbryd a mwynhau eich corff a’ch enaid.

Goruchwylir y salon a’r sba gan ein tîm o weithwyr proffesiynol hynod sgilgar – Steilyddion a Lliwyddion, Harddwyr a Therapyddion Cyflenwol arbenigol. Dônt â chyfoeth o brofiad o’r prif salonau, sbâu pum seren a brandiau harddwch manwerthu eiconig.   

Hyffordda ein tîm o arbenigwyr yn y diwydiant myfyrwyr i hogi eu crefft, gan gyfoethogi taith dysgwyr CAVC drwy brofiad addysgiadol gydag urbasba.

The Urbasba Team

Gweithia myfyrwyr yn galed i ddatblygu eu sgiliau – hwy yw talent y dyfodol ar gyfer y diwydiant, yn y DU a thu hwnt. Mae’n gysyniad sy’n gweithio. Datblyga ein graddedigion i’r salonau a sbâu gorau. Aiff llawer ymlaen i sefydlu eu busnesau llwyddiannus eu hunain.

Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â brandiau diwydiannol eithriadol gan gynnwys Elemis, GHD a Goldwell a chysylltu â brandiau gwadd fel Nails Inc. Sicrha hyn raglen gyffrous o brofiadau a digwyddiadau sydd ar gael ar gyfer ein cwsmeriaid.

tîm

Ymrodda ein tîm o arbenigwyr eu blynyddoedd o brofiad i gyfoethogi a datblygu taith dysgwyr.