Mae grŵp o saith o fyfyrwyr Therapi Harddwch a Sba wedi gwneud cynnydd yn syth o’u cwrs yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro i weithio yng Ngwesty pum seren y Celtic Manor.

Cyflogwyd y myfyrwyr, o sba masnachol o safon uchel urbasba y coleg ar ei Gampws yng Nghanol y Ddinas, ar ôl diwrnod profi crefft. Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr y diwydiant gwallt a harddwch yn cynnal profion crefft fel rhan o’u proses recriwtio, i wneud yn siŵr bod gan ddarpar weithwyr y sgiliau arbenigol angenrheidiol mewn amgylchedd gwaith.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag arweinwyr y farchnad, fel y Celtic Manor, i sicrhau ein bod ni’n rhoi’r union sgiliau y mae’r diwydiant eu hangen i’n myfyrwyr ni”

esboniodd Pennaeth Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyfannol CCAF, Ceri Evans.

“Mae ein cyfleusterau ni yn urbasba yn cyfateb i’r rhai sy’n cael eu cynnig mewn lleoliadau fel y Celtic Manor ac mae ein myfyrwyr ni’n barod i weithio yno. Rydw i’n falch iawn ohonyn nhw ac rydw i’n gwybod bod gan bob un ohonyn nhw ddyfodol disglair o’u blaen.”

Dywedodd un o’r myfyrwyr Therapi Harddwch a Sba Lefel 3, Gabrielle Campbell, 19 oed o Gaerdydd:

“Mae’n rhyfeddol mynd yn syth o’r Coleg i weithio yn y Celtic Manor – mae’n dda iawn. Fe ddaethon nhw i mewn ar gyfer y diwrnod profi crefft ac ar ôl hynny fe gefais i gynnig cyfweliad.

Fe fydda’ i’n gwneud rhywfaint o hyfforddiant i ddechrau ond rydw i wir yn edrych ymlaen at y gwaith oherwydd mae’r Celtic Manor yn lle mor neis i weithio ynddo fo. Rydw i wedi mwynhau fy nhair blynedd yn y Coleg yn fawr – mae wir wedi fy helpu i gyda fy ngyrfa.”

Dywedodd Matthew Lewis, Rheolwr Gweithrediadau’r Celtic Manor:

“Dyma esiampl wych o fanteision y cydweithredu gyda Choleg Caerdydd a’r Fro a’n gwaith ymgysylltu ni gyda rhaglen lleoliad gwaith y Coleg. Mae’n bleser cael dweud bod hyn wedi arwain yn uniongyrchol at y Celtic Manor yn cynnig gwaith llawn amser yn ei Sba i saith o fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a nawr rydyn ni’n gobeithio ehangu’r ymdrechion cydweithredol yma i gynnwys meysydd eraill y gwesty.”