Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnal pumed Sioe Gwallt a Harddwch flynyddol Cymru ddydd Sul 8fed Mai ar ei Gampws newydd yng Nghanol y Ddinas.

Bydd unig sioe gwallt a harddwch Cymru’n cael ei chynnal yn Urbasba, un o’r salonau masnachol mwyaf yn y wlad gyda sba dinesig, sydd â Jacuzzi, ystafell stêm, sawna, tanc arnofio a mwy.

urbasba

◼ Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnal Sioe Gwallt a Harddwch Cymru 2016

Mae Sioe Gwallt a Harddwch Cymru’n cael ei threfnu gan Grŵp Beauty Finder ac mae’n ffenest siop i’r diwydiannau trin gwallt, harddwch a lles yng Nghymru a’r De Orllewin. Mae’r ymwelwyr a’r arddangoswyr yn dod i’r sioe o bob cwr o’r DU ac Iwerddon.

Mae’r sioe ar agor i weithwyr trin gwallt, harddwch a chyfannol proffesiynol a hefyd y myfyrwyr ac mae’n cynnwys safle arddangos, llwyfan arddangos, seminarau busnes a Chystadlaethau Gwallt a Harddwch Agored Cymru 2016.

“Mae’n bleser bod yn bartner i Goleg Caerdydd a’r Fro a chael profi’r lleoliad newydd gyda’r cyfleusterau cwbl fodern sydd ar gael i ni. Mae’n lleoliad gwych i’r sioe wrth symud ymlaen, yng nghanol y ddinas,”

dywedodd Trefnydd y Sioe, Michael Quinn.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm Gwallt a Harddwch y Coleg i gynnig sioe wych i’r diwydiant gwallt a harddwch yng Nghymru.”

Dywedodd Pennaeth Gwallt, Harddwch, Sba a Therapïau Ategol CCAF, Ceri Evans:

“Rydyn ni wedi cyffroi am fod yn bartneriaid i Sioe Gwallt a Harddwch Cymru a chynnal y sioe. Rydyn ni’n edrych ymlaen at helpu i wneud y sioe’n llwyddiant mawr wrth symud ymlaen.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.waleshairandbeautyshow.co.uk