Noson Pamper a Lansio Cynnyrch    
7fed Ebrill 2017, 5pm – 8pm

Mae’n bleser gan urbasba gyflwyno dau frand newydd ac unigryw i’n cynnig; colur Pierre Rene a thriniaethau ailstrwythuro gwallt Olaplex.
I ddathlu hyn hoffem eich gwahodd chi i ymuno â ni am noson o arddangosfeydd colur a gwallt, mân driniaethau a chynigion arbennig gan gynnwys:

  • 20% oddi ar frandiau dethol
  • £5 oddi ar archebion a wneir ar y noson
  • £20 oddi ar GHDs pan fyddwch yn gwneud apwyntiad gwallt ar y noson

Cewch fwynhau gwydraid o ddiod pefriog, ymlacio gyda thriniaeth fechan, cael cyngor gan Dîm Proffesiynol urbasba a chael gostyngiadau mawr ar gynhyrchion gan frandiau fel GHD, Elemis, Sienna X, Pierre Rene a Goldwell.
*Mynediad am ddim ond cofiwch  archebu eich lle ymlaen llaw isod:

Cwblhewch y ffurflen RSVP yma