I drefnu apwyntiad, ffoniwch y salon yn uniongyrchol ar 02920 250450. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau, gwiriwch ein Cwestiynau Cyffredin isod neu anfonwch e-bost at urbasba@cavc.ac.uk – noder y gellir gwneud, diwygio neu ganslo apwyntiadau wyneb yn wyneb yn y salon neu dros y ffôn yn unig.

NODER: Ceisiwn ymateb i’r holl ymholiadau e-bost cyn pen 72 awr.

Cliciwch yma ar gyfer dudalen Sylwadau, Awgrymiadau a Chanmoliaethau Coleg Caerdydd a’r Fro
http://www.cavc.ac.uk/cy/cyswllt/complaints-and-compliments/

FAQs

Pryd allaf wneud apwyntiad gyda myfyriwr?
Mae sesiynau myfyrwyr fel arfer yn rhedeg rhwng mis Medi a Gorffennaf (ac eithrio hanner tymor), ac mae amser dosbarthiadau yn amrywio o ddydd i ddydd sy'n golygu nad yw pob triniaeth ar gael bob diwrnod. Mae'r rhain hefyd yn newid yn ystod y flwyddyn academaidd yn seiliedig ar allu myfyriwr, ond byddant yn cael eu hadolygu'n aml fel ein bod ni'n gallu cynnig cymaint o apwyntiadau ag sy'n bosib.

Pa mor hir fydd fy apwyntiad?
Fel Academi Hyfforddi, rydym yn anelu i ddysgu a hyfforddi ein myfyrwyr i weithio at amseru masnachol, ond fe all apwyntiadau fod yn hirach oherwydd natur yr awyrgylch dysgu. Wrth wneud eich apwyntiad, gallem roi syniad i chi o ba mor hir fydd eich apwyntiad.

Sut ydw i'n gwneud apwyntiad?
Gallwch wneud apwyntiad dros y ffôn, neu'n bersonol yn un o'n salonau. Nid ydym yn cymryd apwyntiadau e-bost bellach gan nad yw e-byst yn cael eu monitro 24/7 ac efallai na fydd y person sydd yn ymateb yn y salon rydych wedi gofyn amdano.

Beth sydd yn digwydd pan fo'r myfyrwyr yno?
Rydym yn cyflogi tîm blaen tŷ, yn ogystal â thîm o steilyddion a therapyddion sydd wedi cymhwyso'n llawn sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn. Darperir y triniaethau hyn gan y Tîm Proffesiynol y tu allan i gyfnodau tymor.

Beth sydd yn digwydd os byddaf yn hwyr i fy apwyntiad?
Os ydych yn cyrraedd eich apwyntiad mwy na 10 munud yn hwyr, efallai y byddwn yn cynnig gwasanaeth/triniaeth fyrrach, neu'n canslo eich apwyntiad yn gyfan gwbl.

Hoffwn archebu diwrnod Sba gyda thriniaethau. Sut ydw i'n gwneud hyn?
Ffoniwch y Salon ar 02920 250450, ac fe edrychwn ar argaeledd. Efallai nad yw'n bosib cynnal triniaethau yn ystod eich sesiwn sba ar fyr rybudd, neu os nad yw'r dosbarth myfyrwyr roeddech yn edrych amdano yn cael ei gynnal ar yr adeg honno. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddod o hyd i rywbeth ar eich cyfer. Mae'r Pecyn Sba Moethus yn gofyn am 50% o flaendal wrth archebu, a fydd yn cael ei dynnu oddi ar eich bil terfynol.

Ydych chi'n cynnig unrhyw ostyngiadau neu gynigion arbennig?
Bydd ein holl gynigion yn mynd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan. Mae gostyngiadau yn amrywio, ac fe’u cynigir a'u tynnu i lawr ar unrhyw adeg, felly byddai'n well ffonio i wirio bob amser.

Hoffwn liwio yn fy aeliau/amrannau. Beth wyf angen gwneud?
Rydyn ni’n dilyn cyfarwyddiadau ein hyswirwyr ni ar gyfer profion croen - maen nhw bob amser wedi dweud y dylem ddilyn canllawiau'r gwneuthurwr.
Mae angen prawf croen 24 i 48 awr cyn pob apwyntiad.

Hoffwn roi lliw yn fy ngwallt. Beth wyf angen gwneud?
Rydyn ni’n dilyn cyfarwyddiadau ein hyswirwyr ni ar gyfer profion croen - maen nhw bob amser wedi dweud y dylem ddilyn canllawiau'r gwneuthurwr.
Mae angen prawf croen 48 awr i 5 diwrnod cyn pob apwyntiad.

Hoffwn gywiro lliw fy ngwallt. Pa mor hir fydd hyn yn cymryd?
Os ydych eisiau mynd o liw tywyll iawn i olau, lliw golau i dywyll, neu gyda llawer o liwiau gwahanol, gelwir hyn yn cywiro lliw gwallt. Mae'n rhaid cael ymgynghoriad cychwynnol i drafod y broses, disgwyliadau a risgiau cyn cywiro lliw gwallt. Efallai na fydd yn bosib cwblhau eich cywiriad lliw yn ystod un ymweliad.