Mollie, myfyrwraig yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn enillydd WorldSkills
Mae Mollie Williams, myfyrwraig Therapi Harddwch Lefel 2 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi ennill medal efydd mewn cystadleuaeth anrhydeddus i ddod o hyd i’r therapyddion harddwch dan hyfforddiant gorau yn y wlad.
Enillodd Mollie y fedal efydd yng nghystadleuaeth VTCT WorldSkills. Roedd rhaid i’r ferch 16 oed o’r Barri gystadlu yn erbyn bron i 20 o bobl ifanc eraill i ddarparu triniaethau perffaith ar gyfer y dwylo, yr wyneb a’r gwddw, a chwyro.
“Roedd rhaid i ni wneud colur mewn cyfnod penodol o amser ac roedd rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud popeth yn gywir ac yn lân”
dywedodd Mollie.
“Roedd wir yn gyffrous a doeddwn i ddim yn disgwyl ennill medal efydd, felly roedd yn dda iawn.”
Dywedodd Ceri Evans, Pennaeth Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Ategol CCAF:
“Rydyn ni mor falch o Mollie. Mae hi wedi dod o hyd i’w lle yn y byd Therapi Harddwch – efallai mai dim ond 16 oed ydi Mollie ond mae hi eisoes yn gwneud gwaith colur a gwallt ar ei liwt ei hun i House of Fraser a does dim byd yn ei chynhyrfu hi. Mae ganddi ddyfodol gwych o’i blaen.”
urbasba
CAVC Campws Canol y Ddinas
Heol Dumballs
Caerdydd
CF10 5FE
Hysbysiad Preifatrwydd