Nadia o Goleg Caerdydd a’r Fro yw Myfyriwr Trin Gwallt y Flwyddyn y DU
Mae myfyrwraig yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Nadia Hadjali, wedi cael ei choroni’n Fyfyriwr y Flwyddyn y DU mewn cystadleuaeth anrhydeddus i weithwyr trin gwallt addawol.
Mae myfyrwraig yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Nadia Hadjali, wedi cael ei choroni’n Fyfyriwr y Flwyddyn y DU mewn cystadleuaeth anrhydeddus i weithwyr trin gwallt addawol.
Cafodd Nadia, sy’n astudio Trin Gwallt a Harddwch Lefel 2 yn salon CCAF yn y Barri, yr Academi, ei choroni yn Fyfyriwr y Flwyddyn y DU 2016 gan y Cyngor Trin Gwallt. Nod y Cyngor fel corff yw codi safonau’r diwydiant. Roedd rhaid i Nadia greu “steil carped coch” wrth gystadlu fel un o’r wyth o fyfyrwyr Lefel 2 gorau o golegau a chwmnïau hyfforddi o bob cwr o’r wlad yn Academi L’Oreal yn Llundain.
“Mae ennill y wobr yn golygu’r byd i mi – rydw i’n teimlo’n hapus iawn, iawn”
dywedodd Nadia, sy’n byw ym Mhenarth.
“Rydw i wastad wedi bod eisiau trin gwallt, er pan oeddwn i’n ferch fach, ac rydw i wir yn mwynhau fy ngwaith. Rydw i wrth fy modd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ac yn falch iawn o’r help a’r gefnogaeth rydw i’n eu cael gan fy nhiwtoriaid.”
Dywedodd Tiwtor Cwrs Nadia a’r Cydlynydd ar gyfer Trin Gwallt, Lorraine Spear:
“Mae Nadia yn fyfyrwraig Gwallt a Harddwch Lefel 2 sy’n hanu o Ffrainc yn wreiddiol. Mae hi’n fyfyrwraig ysbrydoledig sy’n llawn cymhelliant ac mae wrth ei bodd gyda’i gyrfa newydd. Mae Nadia’n ymarfer yn ddiflino er mwyn gwella ei sgiliau ymarferol ac mae hyn yn amlwg yn ei gwaith ymarferol ac yn adborth y cleientiaid. Maen nhw’n gofyn yn rheolaidd am Nadia yn yr Academi a’r rheswm am hynny yw’r sgiliau trin gwallt a’r sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid sydd ganddi.”
Dywedodd Pennaeth Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Ategol CCAF, Ceri Evans:
“Rydyn ni i gyd mor falch o Nadia am ennill y wobr yma ledled y DU – mae cyrraedd y rownd derfynol yn gamp enfawr. Roedd ei ‘steil carped coch’ mor hyfryd, ac roedd yn gystadleuaeth agos iawn ar y diwedd. Mae’n amlwg bod angerdd ac ymrwymiad Nadia wedi gwneud argraff ar y beirniaid ac wedi ennill y dydd iddi.”
urbasba
CAVC Campws Canol y Ddinas
Heol Dumballs
Caerdydd
CF10 5FE
Hysbysiad Preifatrwydd